Cyfieithu ar y Pryd

Beth yw Cyfieithu ar y Pryd?

Pwrpas cyfieithu ar y pryd yw galluogi pobl nad ydynt yn deall Cymraeg i wrando ar gyfraniadau yn Gymraeg, mewn digwyddiadau fel cyfarfodydd a chynadleddau. Bydd pob cyfraniad yn Gymraeg yn cael ei gyfieithu ar y pryd i Saesneg, ac yn cael ei ddarparu trwy glustffonau mae'r gwrandawyr yn gwisgo. Mae cyfieithu ar y pryd yn gofyn am sgiliau gwahanol iawn i gyfieithu ysgrifenedig.

Y Gwasanaeth

Mae Trosi Tanat yn darparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd o Gymraeg i Saesneg mewn digwyddiadau o bob math yn ystod y diwrnod gwaith, yn y min nos neu'r penwythnos. Mae gennym brofiad o ddarparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd mewn digwyddiadau o bob maint, o gynadleddau cenedlaethol i gyfweliadau swydd.

Gallwn logi cyfarpar cyfieithu ar y pryd ar gyfer eich digwyddiad, os rhoddir digon o rybudd. Bydd nifer y clustffonau a'r cyfarpar sy'n ofynnol yn dibynnu ar y lleoliad, nifer y bobl sy'n mynychu a math y digwyddiad.

Prisiau

Os hoffech amcanbris 'heb rwymedigaeth' am ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd cyrchwch y Ffurflen Gais am Gyfieithu ar y Pryd.

Gwybodaeth Bellach

Gwybodaeth bellach am ein cymwysterau, profiad a sgiliau: