Prawfddarllen a Golygu

Mae prawfddarllen yn rhan hanfodol o'r broses gyfieithu, a rhaid caniatáu digon o amser i wneud hyn yn drylwyr, hyd yn oed os yw'r ddogfen yn gymharol fach.

Y Gwasanaeth Prawfddarllen

Bydd pob darn o waith byddwn yn ymgymryd ag ef yn cael ei brawfddarllen cyn ei ddychwelyd at y cleient. Mae pris y cyfieithu yn cynnwys y broses hon, sy’n cynnig gwerth am arian ardderchog. Hefyd, mae'r broses hon yn sicrhau bod y cyfieithiad yn gywir, o safon uchel, ac yn darllen yn dda.

Hefyd, mae'r pris yn cynnwys gwirio proflenni wedi'u teiposod, cyn i'r ddogfen derfynol gael ei hargraffu. Mae gennym brofiad helaeth o weithio gyda chwmnïau dylunio ac argraffu i sicrhau bod y cyfieithiad a argraffwyd yn derfynol yn hollol gywir.

Y Gwasanaeth Golygu

Mae Trosi Tanat hefyd yn darparu gwasanaeth golygu ar gyfer dogfennau sydd eisoes wedi'u drafftio yn Gymraeg. Gallwn olygu a diweddaru eich dogfennau sydd wedi'u drafftio i sicrhau bod eich dogfennau Cymraeg a dwyieithog yn gywir o ran eu gramadeg ac o safon ieithyddol uchel. Gallwn olrhain y newidiadau yn y ddogfen wedi'i golygu i'ch galluogi i wella'r sgiliau sydd gennych eisoes.

Efallai y byddwch hefyd yn dymuno defnyddio'r gwasanaeth hwn fel dull o sicrhau ansawdd, i asesu safon gwaith cyfieithydd arall.

Prisiau

Er bod ein ffi cyfieithu yn cynnwys prawfddarllen dogfennau a gyfieithwyd gennym ni, codwn ffi ar wahân am olygu gwaith pobl eraill. Byddwn yn golygu dogfennau sy'n cynnwys hyd at 75 gair am ddim. Mae'r prisiau am olygu gwaith pobl eraill ar sail faint o amser bydd yn cymryd i olygu'r ddogfen. Ewch i'r dudalen Cwestiynau a Ofynnir yn Fynych i gael gwybodaeth bellach.

Os hoffech amcanbris 'heb rwymedigaeth' am gwblhau darn o waith golygu cyrchwch y Ffurflen Gais am Olygu.

Gwybodaeth Bellach

Gwybodaeth bellach am ein cymwysterau, profiad a sgiliau: